23.11.06

ROMA!


Son am ddydd Mercher Llis... ma dydd Mercher gwlyb, gwyntog a chditha hefo mynydd o ddillad i'w golchi a 2 deadline gwaith a newydd gal gwylia bril yn waeth!

O... ac os wyt ti newydd ffeindio allan bod Tom Cruise, Katie Holmes, David Beckham, Will Smith a J-Lo wedi bod yn aros yn yr un hotel a chdi ond noson ynghynt.. fedrwch chi goelio hynna? Fysa Pete fi wedi bod yn reslo hefo Brooke Shileds i gyrraedd at y scrambled eggs! Oeddan nhw yn yr Hassler hotel tan y nos Sul a nathon ni gyrraedd y wine academy (sydd fatha chwaer fach boutique iddi, ond yn cael brecwast yn yr un lle) ar y dydd Llun. GUTTED!

Ond... fatha consolation prize, mi nath Pedro weld Chardonnay (of Footballers' Wives Fame) ar y stryd!
 
O.N. Brans- ma Pete yn wyrdd hefo cenfigen rwan bod y cricket wedi dechra!
xxx 
 
 


Amazing competition for unsigned bands with Live Sessions from MSN Spaces

21.11.06

Bywyd bob dydd
Annwyl Santa
Allai plis plis plis ddeffro ar Bondi Beach ar ddydd Nadolig eleni? Heb streeeeeesssssssss gwaith. Heb gyfarfodydd hir a dadle a chwyno. Heb dywydd oer. Heb swn gwynt yn ratlo'r ffenestri. Heb ffycin annoying students yn ciwo'n swnllyd i'r unig sinema yn yr holl dre. Heb loads o bobl yn dod mas o'r sinema jyst fel fi'n trio mynd i gysgu. Heb ddim llefydd parcio. Heb traffic attendants blin a pen-friendly. Heb ras 10k ar y gorwel. Heb bo fi'n mynd yn fwy a mwy anffit bob eiliad. Jyst tonnau masif ac awyr las a phobl ffynci a sesh arall ar y gorwel a bwyd iach a blasus a haul masif llachar.
O fi'n gwbod bo fe ddim rili fel na bob dydd gyda chi na fan hyn chwaith - jyst bod rhai dyddie fel heddi where I wish I could put my head in the warm white sand.
Mari

15.11.06

Caernarfon, Coctels a Cadi!


Nos Sadwrn a lan a Mali, Heledd a fi i ymuno a chriw Caernarfon am fwyd lyfli yn Mollys - er bod rhai o'r scalops yn oer roedd y cwmni yn ffab... ac yna i'r haunt gore yn y byd, y 'Black Boy', cyn benni lan yn Medi. Uchafbwynt y diwrnod oedd cwrdd a Cadi am y to cynta (i fi) - wow ma hi mor, mor ciwt a da a gorjjjjjjjjjys. Mi wna i roi ffoto lan yn fuan! Druan a hi ddo yn cael ei amgylchynnu gan lwyth o 'antis' i gyd yn brwdi ac yn gwneud synnau 'wwww' ac 'aaaaa'. O leia doedd dim soggy kisses a warts in sight. Am y tro! Beth sy'n amazing yw bod Leri nid yn unig yn edrych yn ffantastig ond bo hi hefyd wedi llwyddo i aros mas tan y diwedd. The girl's got style AND stamina.

Nethon ni aros yn ty Llio, Medi a Siwan sy'n dy hen, urddasol a classy iawn. Ma da fe nifer di-ddiwedd o lorie (I didn't make it to the top ond fi'n siwr bo fe'n tua 10 storey o uchder!) a lot o gymeriad. Plys, ma fe dafliad carreg (hyd yn oed i daflwr shit fel fi) o Cofi Rock. What more could a girlie need. Neis iawn.

Roedd hi'n ffab ffab gweld cymaint o bobl eto - ac ryn ni am drefnu aduniad arall yn Aber yn y flwyddyn newydd. OOOOONNNNNNNNDDDDDDDD er bo fe gyd yn cwl iawn ond (er bod sawl toast i Bran ar y noson a'n bod ni wedi trio ffonio ti yn pisd) nethon ni weld ishe ti Bran. Dere nol yn saff - jyst meddwl am y 'Black Boy' os wyt ti byth yn hiraethu ac mi fydd yn dod a chynhesu dy galon! Joiwch yn Sydney. :-) Os ych chi'n gweld boi mawr sy'n edrych fel bodybuilder o'r enw Dimitri ar y traeth yn Bondi gwedwch helo wrth y Backstreet Girl! Not as dodgy as it sounds. Onest. Marixxxx