17.10.06

Eiddigedd

Braf i glywed fod B&M yn cal bach o TLC ar ol eu taith hirfaith. Dwi’n eistedd fan hyn mewn concrete-block shed o swyddfa yn edrych ar y photos ar y we – lyfli!!!

Ma rhai o photos y Briodas wedi cael eu rhoi ar www.flickr.com/photos/ifanmari gyda llaw. Ma un lyfli o Brans arno fe, yn edrych yn feddylgar iawn. Siwr o fod yn meddwl am eich trip mawr!!!

O ran goss fan hyn, ma Luned yn aros da ni ar hyn o bryd achos ei bod hi’n chaparonio (!) Glyn Big Brother rownd Cymru ar ran Bwrdd yr Iaith. Ffyni. http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/cynnwys.php?cID=1&pID=247&nID=726&langID=1. Siwr o fod yn swnio mor swrreal o Hue.

Hefyd er gwaetha pob ymdrech i aros mewn a bihafio nos Sadwrn (a gwylio'r X-Factor - ooo B&M rych chi'n colli campwaith o fynd ar eich trafels!) nath un gwydred o champers arwain at... tua 3 arall a 5 gwydred o win a 3 tia maria a coke a trip i'r Angel a... wel, nes i feni lan yn yr Undeb yn dawnsio gyda stiwdents. O diar. Odd y llawr dal yn stici; Dan Slaps dal wrth y drws a pawb yn trio copio off (nid da fi wrth reswm - achos y fodrwy. Hm. A'r henaint.) Ych ond weird o cwl! Marix

12.10.06

Gwyliau Da

Tip teithio: http://www.handsupholidays.com/

The big new thing… Cyfle i weithio i achos da ond cyfuno adeiladu ysbyty neu waith elusennol neu helpu mewn cymuned gyda gwyliau ‘luxury’.

Swnio’n cwl iawn. Marix

4.10.06

Gwinllan a Roddwyd...

Wel, ryn ni newydd agor ein potel gyntaf o win o'n gwinllan ni yn Ffrainc (!!!) Dwi ddim yn dda iawn da gwybod beth i'w ddweud (neu jocan gweud) gyda gwin - odd e'n edrych fel gwin (lush coch), yn gwynto fel gwin (lush coch) ac yn blasu fel gwin (lush coch)! Odd blas eitha cryf, 'robust' ar y gwin nethon ni drio heno, fel mae'n digwydd - jyst fel fi'n lico. Hwre! Ma'r botel gyntaf yn hyfryd iawn iawn... Dim ond 11 potel arall (yfe?) a www... pishyn cyfan o winllan i fynd! Yipeee! Diolch masif eto. Mari ac Ifan (bach yn pisd!)x

Syniad Busnes...

Independent travel is revolutionising the UK holiday market, transforming products, distribution channels and business models alike. The customer is at the heart of this change.

Mintel believes that for many consumers, independent travel displays a desire for freedom and also a satisfying assertion of their capabilities and competence. The winners in this revolution will be those companies who can successfully adapt to the new highly personalised, customer-centric universe into which the industry is moving... Marix

Gwaith Gwaith Gwaith

Wel dwi nol yn gwaith ers tridie a ma San Francisco a Boston – heb son am y Briodas – yn teimlo fel oesoedd, hydoedd yn ol; byd arall – aaaaa…

Bach fel Asia. Ble ych chi Brans a Mans? Machynlleth calling!!!

Bron iawn a dal lan gyda fy emails o’r diwedd. Lists a gwaith i neud nawr. Cyfarfodydd da fi flat out am y ddau ddiwrnod nesa – rhai yn eitha difyr... trafod ‘ghost watching’ bore fory! Angen trio gwin o fy ngwinllan newydd yn Ffrainc heno er mwyn ymlacio fi’n meddwl. Marix

2.10.06

eich profiad euraid (wel efydd)

Balwnio, nofio da siarcod, blasu gwin... yum yum... Jyst nodyn i weud bod eich voucher wedi cyrraedd ac mi fydda i'n ei yrru ymlaen at Brans yn y dyddie nesa. Yn y cyfamser - be ma pawb arall yn meddwl ddylen nhw neud? Cliciwch ar y linc a rhoi'ch sylwade isod asap svp! Marix
y post cyntaf

Dyma neges gyntaf i chi i weud cariad mawr o Gymru fach... (gyda llun o Efrog Newydd dim Aber yn amlwg.)
Mae'n debyg eich bod chi yn Asia erbyn hyn - a ni dal fan hyn yn y glaw a'r gwynt a'r hydre yn dod yn gloi... Diolch am barti gret nos Sadwrn - odd da fi hangover poenus iawn fore Sul ar ol treulio'r holl daith adre'n y car yn gweud tho Ifan bo fi'n meddwl bo fi mewn llong ofod. Wps. Ddim wedi clywed lot o goss gweddill y noson eto, heblaw rhywbeth am chi'ch dau yn stryffaglio adre ychydig bach yn tipsy! Eniwei, gobeithio bydd rhywun yn llenwi'r bwlch nes mlan yn yr wythnos. Marix