4.10.06

Gwinllan a Roddwyd...

Wel, ryn ni newydd agor ein potel gyntaf o win o'n gwinllan ni yn Ffrainc (!!!) Dwi ddim yn dda iawn da gwybod beth i'w ddweud (neu jocan gweud) gyda gwin - odd e'n edrych fel gwin (lush coch), yn gwynto fel gwin (lush coch) ac yn blasu fel gwin (lush coch)! Odd blas eitha cryf, 'robust' ar y gwin nethon ni drio heno, fel mae'n digwydd - jyst fel fi'n lico. Hwre! Ma'r botel gyntaf yn hyfryd iawn iawn... Dim ond 11 potel arall (yfe?) a www... pishyn cyfan o winllan i fynd! Yipeee! Diolch masif eto. Mari ac Ifan (bach yn pisd!)x

2 Comments:

Blogger ffrindie/friends - brans & eurig ...

Triwch gadw rhai i ni flasu plis? angen un ar y funud y bathrwm yn cymryd am byth ac yn llenwi'r ty a dwst! meddwl am Brans a mans ar 'u trafels a minne yng nghanol y diawl Diy!
gwawr
x

09:52  
Blogger Llio Wyn ...

Helo helo! Falch bo ti di cychwyn ar y gwin Mari! Gobeithio bod y pen ddim yn rhy ddrwg heddiw ma.
Wel Brans a Eurig - sut mae hi yn HK??
Ydy' hin ddinas brysur??? Ellai ddychmygu bo na dipyn o buzz yna.
Gadewch wybod sut maen mynd!
Shiws yn dod nol o Dregaron heno - mwy na thebyg yn mynd allan am un neu ddau. Methu coelio bo na wythnos di mynd ers sesh wkend diwetha -
Gwawr - paid a gor weithio ar y bathrwm wkend ma - a gad y dwst i Joe i lanhau!
News yr wythnos - Nia wyn maen debyg yn cymeryd 7 wythnos off gwaith i fynd i deithio! Mae hin son am Thailand a Seland Newydd. Chware teg!! Mynd ben ei hun dwin meddwl.
Gosh mae'r tywydd yn afiach ma heddiw - gwynt a glaw - rel tywydd gogledd cymru. O wel......
HWRE! mae hin 4:30pm. Adre a fi.
Joiwch y wkend
Llisxxxxx

16:39  

Post a Comment

<< Home