17.10.06

Eiddigedd

Braf i glywed fod B&M yn cal bach o TLC ar ol eu taith hirfaith. Dwi’n eistedd fan hyn mewn concrete-block shed o swyddfa yn edrych ar y photos ar y we – lyfli!!!

Ma rhai o photos y Briodas wedi cael eu rhoi ar www.flickr.com/photos/ifanmari gyda llaw. Ma un lyfli o Brans arno fe, yn edrych yn feddylgar iawn. Siwr o fod yn meddwl am eich trip mawr!!!

O ran goss fan hyn, ma Luned yn aros da ni ar hyn o bryd achos ei bod hi’n chaparonio (!) Glyn Big Brother rownd Cymru ar ran Bwrdd yr Iaith. Ffyni. http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/cynnwys.php?cID=1&pID=247&nID=726&langID=1. Siwr o fod yn swnio mor swrreal o Hue.

Hefyd er gwaetha pob ymdrech i aros mewn a bihafio nos Sadwrn (a gwylio'r X-Factor - ooo B&M rych chi'n colli campwaith o fynd ar eich trafels!) nath un gwydred o champers arwain at... tua 3 arall a 5 gwydred o win a 3 tia maria a coke a trip i'r Angel a... wel, nes i feni lan yn yr Undeb yn dawnsio gyda stiwdents. O diar. Odd y llawr dal yn stici; Dan Slaps dal wrth y drws a pawb yn trio copio off (nid da fi wrth reswm - achos y fodrwy. Hm. A'r henaint.) Ych ond weird o cwl! Marix

0 Comments:

Post a Comment

<< Home