7.1.07

Penwythnos Cynta 2007 - ble thy **** aeth y Nadolig?

Mae'n rhyfedd meddwl fod y paragraff dwetha ar y blog yn dyddio o cyn y Nadolig... Ma lot ond dim byd lot (na mas o'r cyffredin rili) wedi digwydd yn y cyfamser.
Gethon ni Nadolig lyfli - ond tebyg i bob Nadolig arall (sef y rheswm odd e mor neis siwr o fod) - yng Nghasllwchwr. Lot gormod o sdwffin a gwin a diogi. Neis iawn.
Lan a ni i Gilfach Gwyddil, ty Dafydd Gwyn, tad Ifan, wedyn ar gyfer y flwyddyn newydd. Rhwng y snorto wisgi; yr yfed 'siampen' Mileniwm rhad Gwern; cig eidion nath ennill roset yn y Royal Welsh; coelcerth yn y glaw a'r whare Poker am 4 y bore roedd hi'n dipyn o noson. Odd y bola'n troi erbyn toriad gwawr, so arhoses i'n y gwely tan tua canol dydd. Dechrau gret ac adeiladol i'r flwyddyn newydd. Way to go.
Wi wedi penderfynu peidio neud addunedau'n arbennig ar gyfer 2007 ond trio meddwl am 10 peth i'w wneud cyn bo fi'n 30 yn lle (a 5 peth i Ifan cyn iddo fe droi'n 35 - ho ho!). Hyd yn hyn ma nhw'n cynnwys:

  1. Dechre busnes
  2. Mynd ar drip i Chile
  3. Sgwennu nofel (ahem)

Yna, wi'n styc. O wel.

Un peth sydd ar y gweill ar gyfer 2007 ddo, yw taith fach mas i weld Brans yn Canada. Wi wrthi'n ymchwilio prisie nawr and I'll keep you posted.
Brans a Mans - keep up the good work lawr yn Sydney! Neis gweld fod y gwin a'r amsere da yn llifo. Brans, i bwy ti'n gweithio? Ma'r olygfa o'r swyddfa dipyn gwell na'r olygfa o gaeau a carafans mawr Salop a concrit blocs s'da fi yn Mach! O ddifri, on i'n methu credu'r mor bert odd y llun a dynnwyd o'r fflat dros yr Harbwr. Styning. Mwynhewch pob eiliad.
Marix

0 Comments:

Post a Comment

<< Home