8.12.06

Tornado, Tywydd Garw a Training

Ma tornado wedi bwrw Bow Street! Onest! Tropical Bow Street strip.
Mae siwr o fod yn anodd dychymgu, a'r gwres yn cripian lan i'r 40s ond ma'r tywydd wedi bod yn ofnadwy yng Nghymru ers tua pythefnos - gwyntoedd cryf, bwcedi o law, stormydd mellt-a-tharane am tua 10 y bore... Ddim yn teimlo fel global warming i fi. Ma tonne anferth wedi bod yn bwrw'r prom yn Aber - ma'r palmant fel traeth arall, gyda llwyth o dywod a cherrig man a broc dros y lle i gyd. A ma hi wastod yn pisho lawr am tua 6.15 jyst pan dwi'n seicd-yp i fynd am run.

Dwi a Carolyn - merch o Aber odd da ni ar yr hen - yn rhedeg ras 10k Aber dydd Sul yma! Ryn ni wedi bod yn trio hyfforddi am tua 2 fis ond wedi bod yn hollol hoples ac felly wedi gorfod neud bach mwy o ymdrech dros y dyddie dwetha. Ni dal yn teulio mwy o amser yn siarad a cherdded nac yn jogo (heb son am redeg) ond ryn ni'n haeddu bonus points am neud hynna yn y gwynt a'r glaw a'r tywyllwch.

Dyn ni ddim yn meddwl newn ni lwyddo i redeg y 10k i gyd ar ddydd Sul a ma Carolyn wedi gosod targede i fi:
  • Dan 45mun (DIM siawns) - unlimited champers a choctels yn yr Orendy
  • Dan 1awr (siawns tene iawn) - potel o champers
  • Dan 1awr15mun - gwydred o champers
  • Dros hynna - diet coke

Bydd canlyniade'r ras ar y blog wythnos nesa. Get your bets in now.
Diet coke for me.
Marix

1 Comments:

Blogger ffrindie/friends - brans & eurig ...

Haia!
dw'n cael cyfle i sgwennu o'r diwedd - a hynny am fy mod yn sal yn fy gwely! di bo'n brwydro yn erbyn yr anwyd yma ers tro sond gan fo'r gwylie ar y gorwel - ma' fe di penderfynu ymosod arna i!
ma'r tywydd dal yn erratic iawnfan hyn a beta i fod hi'n dechre twymo'n deidi draw yn Oz. ma traed bach Martha'n dachre codi go iawn erbyn hyn a wir angen digoni fy ysfa i weud 'sod it' wrth bopeth ac ymuno a Brans ag Eurig!

ond mi ges i fynd ar city break bach i Frwsel dros wkend - a rili joio fyd! ges i fy nghwrw cynta ers amser coleg - a hwnnw'n un cryf iawn - di dewis y wlad rong(neu iaw - dibynnu fel chi'n edrych arni!) i neud tasting session! Ond dwi nawr yn fan o'r Leffe Blonde - er ma ond hanner gwydred ges i cyn bo fi'n dachre cael hot flush a teimlo'n faint!

Gethon ni bach o cosmopolitan wkend gweud gwir - gan 'yn bod ni di ymuno a Rhians yn Manceinion i weld y Basement Jaxx nos Iau. Gethon ni daith horrendous i fyny rtra bo Rhians druan yn styc ben 'i hun yn bar y Travelodge ar y gwin coch am ryw 2 awr yn aros amdanon ni! aeth hi'n sesh fach wedyn - not a very wise move gan bo ni'n gorfod codi am 6 i deithio in lundian i ddal yr awyren! aw, aw,aw ond da da da iawn o noson!

ta waeth - dwi di boro chi ddigon da fy hanesion i. nol a fi i chwythu fy nhrwyn a teimlo'n flin am 'yn hun dwi'n meddwl.

gobitho welai'r mwyafrif no chi dros yr wyl - meddwl pigo i'r gogs rthwng nawr a dwiedd ionawr - rili ishe cwrdd a Cadi!

xxxxxGWAWR

15:10  

Post a Comment

<< Home