1.12.06

HWRE!

Hwre hwre hwre:

1. Mae'n ddydd Gwener
2. Ma gwydred o siampen pinc yn aros amdana'i yn yr Orendy - oh yes
3. Ma rhywun arall wedi sgwennu ar y blog

Hwre hwre hwre.

Rhians - ma'r hotel yn swnio'n anhygoel. Methu credu bo ti wedi colli siawns i gwrdd a Becks a Posh tho. O wel, celebs Medi i ni! Bydd yn rhaid i Brans a Mans neud serious Sydney-seleb-spotting ar ein rhan. Pwy a wyr, falle welan nhw mega-ser fel... y Backstreet Boys! Hwre eto.

Marix

1 Comments:

Blogger Llio Wyn ...

Sut oedd y siampers pinc Mar?? Braf iawn ar rai!
Ellai jest atgoffa pawb - pa ddiwrnod ydy hi? DYDD MERCHER!! Ych a fi.
A sbiwch allan drwy'r ffenest? Yndi - mae hin bwrw glaw a mae'r gwynt yn chwythu- TIPICAL!!!
A mae gen i fynydd o waith i neud.
Aw.
Methu coelio chwaith na dim on 18 diwrnod sydd yna tan diwrnod Nadolig... arghhh!
Wwww a mae Love Actually ar y teledu heno - neith o godi'r spirits i fyny gobeithio a finne yn styc o flaen fy adroddiad sydd fod i mewn mis Ionawr. Dwisio gorffen o cyn y dolig ond iechyd, mae hin job!
A dwi angen gorffen siopa dolig - er dim on dau sgen i ar ol iw brynu.
Be di hanes pawb dros y flwyddyn newydd? Mi fyddai lawr yng Nghaerdydd - Mali J di trefnu bwrdd yn Champers a thocyn i Riocha bar wedyn - criw o tua 20 dwin meddwl. Ella mochyn du wedyn. Any takers?
Reit - paned o goffi cyn i imi syrthio i gysgu! xx

11:52  

Post a Comment

<< Home