15.11.06

Caernarfon, Coctels a Cadi!


Nos Sadwrn a lan a Mali, Heledd a fi i ymuno a chriw Caernarfon am fwyd lyfli yn Mollys - er bod rhai o'r scalops yn oer roedd y cwmni yn ffab... ac yna i'r haunt gore yn y byd, y 'Black Boy', cyn benni lan yn Medi. Uchafbwynt y diwrnod oedd cwrdd a Cadi am y to cynta (i fi) - wow ma hi mor, mor ciwt a da a gorjjjjjjjjjys. Mi wna i roi ffoto lan yn fuan! Druan a hi ddo yn cael ei amgylchynnu gan lwyth o 'antis' i gyd yn brwdi ac yn gwneud synnau 'wwww' ac 'aaaaa'. O leia doedd dim soggy kisses a warts in sight. Am y tro! Beth sy'n amazing yw bod Leri nid yn unig yn edrych yn ffantastig ond bo hi hefyd wedi llwyddo i aros mas tan y diwedd. The girl's got style AND stamina.

Nethon ni aros yn ty Llio, Medi a Siwan sy'n dy hen, urddasol a classy iawn. Ma da fe nifer di-ddiwedd o lorie (I didn't make it to the top ond fi'n siwr bo fe'n tua 10 storey o uchder!) a lot o gymeriad. Plys, ma fe dafliad carreg (hyd yn oed i daflwr shit fel fi) o Cofi Rock. What more could a girlie need. Neis iawn.

Roedd hi'n ffab ffab gweld cymaint o bobl eto - ac ryn ni am drefnu aduniad arall yn Aber yn y flwyddyn newydd. OOOOONNNNNNNNDDDDDDDD er bo fe gyd yn cwl iawn ond (er bod sawl toast i Bran ar y noson a'n bod ni wedi trio ffonio ti yn pisd) nethon ni weld ishe ti Bran. Dere nol yn saff - jyst meddwl am y 'Black Boy' os wyt ti byth yn hiraethu ac mi fydd yn dod a chynhesu dy galon! Joiwch yn Sydney. :-) Os ych chi'n gweld boi mawr sy'n edrych fel bodybuilder o'r enw Dimitri ar y traeth yn Bondi gwedwch helo wrth y Backstreet Girl! Not as dodgy as it sounds. Onest. Marixxxx

0 Comments:

Post a Comment

<< Home