21.11.06

Bywyd bob dydd
Annwyl Santa
Allai plis plis plis ddeffro ar Bondi Beach ar ddydd Nadolig eleni? Heb streeeeeesssssssss gwaith. Heb gyfarfodydd hir a dadle a chwyno. Heb dywydd oer. Heb swn gwynt yn ratlo'r ffenestri. Heb ffycin annoying students yn ciwo'n swnllyd i'r unig sinema yn yr holl dre. Heb loads o bobl yn dod mas o'r sinema jyst fel fi'n trio mynd i gysgu. Heb ddim llefydd parcio. Heb traffic attendants blin a pen-friendly. Heb ras 10k ar y gorwel. Heb bo fi'n mynd yn fwy a mwy anffit bob eiliad. Jyst tonnau masif ac awyr las a phobl ffynci a sesh arall ar y gorwel a bwyd iach a blasus a haul masif llachar.
O fi'n gwbod bo fe ddim rili fel na bob dydd gyda chi na fan hyn chwaith - jyst bod rhai dyddie fel heddi where I wish I could put my head in the warm white sand.
Mari

2 Comments:

Blogger Llio Wyn ...

Argol Mari fach - dwin cytuno a dwin cymeryd na Dydd mercher oedd hi pan sgwennes di hwn - diwrnod gwaetha'r wythnos!

5 rheswm pam mae gas gen i Ddydd Mercher.

1.) Ti di mynd drwy boen Dydd Llun a Mawrth, ond mae gen ti dri diwrnod arall i fynd cyn y penwythnos.
2.) Mae hi wastad yn bwrw glaw ar Ddydd mercher.
3.) Does dim byd ar y teledu nos fercher.
4.) Yn Coleg, nos sadwrn bach oedd nos fercher - a mae hynny jest yn heileitio'r ffaith fod na 10 mlynedd di mynd ers cychwyn coleg. Aw. Pass mi ddy wrincyl crim.....
5.) Ar ddydd mercher oedd Mam yn mynd i gael chemotherapy pan oedd hin sal 12 mlynedd yn ol i'r 'Dolig ma.
6.) Ar ddydd mercher ges i fy dympio gen fy nghariad cynta wrth stesion bysus Dolgellau - yn y gwynt ar glaw.
7.) Ar Ddydd mercher oedd gen i wersi piano pan on i'n ysgol.
8.) A maen siwr ar Ddydd Mercher on in cael dwbl Gwyddonoiaeth a Maths -yyyyyych.
9.) Dydd mercher diwetha ges i fy mil ffôn oedd yn ECHRYDUS o uchel.

Diolch i'r nefoedd - mae hi'n ddydd Iau heddiw - haleliwia joseffin!

09:46  
Blogger Eurig a Branwen ...

Ma hi'n ddydd Mercher yma yn Sydney - a gredwch chi byth ond ma hi'n ddiwrnod overcast iawn a gwyntog. Eitha oer actually!! Fi mewn jeans a cardigan - dim bikini in sight.
Ydy hwnna yn neud i chi'ch dwy deimlo yn well?!

Newydd ddarllen am antics Rhiannon yn Rhufain. Classic. Nes i brynu OK magazine ddoe i ddal lan gyda'r celebrity gossip a dim ond y blydi ffair yn Rhufain ar gyfer Tom a Katie o'dd ar y blydi thing. Ffili credu Rhians bo ti na....beth o'dd yr hotel fel? tell me all!

Nes i weld Tom Crusie yn Wimbledom unwaith by the way...ond o'dd ei sbectol haul mor fawr galle fe di bod yn unrhyw minger rili...

Anyway gobeithio bod pawb yn iawn.

Bransxxx

O ie - dydd Mercher o'n i yn cal gwersi piano hefyd Llio!

01:14  

Post a Comment

<< Home