12.12.06

Haia!
dw'n cael cyfle i sgwennu o'r diwedd - a hynny am fy mod yn sal yn fy gwely! di bo'n brwydro yn erbyn yr anwyd yma ers tro sond gan fo'r gwylie ar y gorwel - ma' fe di penderfynu ymosod arna i!
ma'r tywydd dal yn erratic iawnfan hyn a beta i fod hi'n dechre twymo'n deidi draw yn Oz. ma traed bach Martha'n dachre codi go iawn erbyn hyn a wir angen digoni fy ysfa i weud 'sod it' wrth bopeth ac ymuno a Brans ag Eurig!

ond mi ges i fynd ar city break bach i Frwsel dros wkend - a rili joio fyd! ges i fy nghwrw cynta ers amser coleg - a hwnnw'n un cryf iawn - di dewis y wlad rong(neu iaw - dibynnu fel chi'n edrych arni!) i neud tasting session! Ond dwi nawr yn fan o'r Leffe Blonde - er ma ond hanner gwydred ges i cyn bo fi'n dachre cael hot flush a teimlo'n faint!

Gethon ni bach o cosmopolitan wkend gweud gwir - gan 'yn bod ni di ymuno a Rhians yn Manceinion i weld y Basement Jaxx nos Iau. Gethon ni daith horrendous i fyny rtra bo Rhians druan yn styc ben 'i hun yn bar y Travelodge ar y gwin coch am ryw 2 awr yn aros amdanon ni! aeth hi'n sesh fach wedyn - not a very wise move gan bo ni'n gorfod codi am 6 i deithio in lundian i ddal yr awyren! aw, aw,aw ond da da da iawn o noson!

ta waeth - dwi di boro chi ddigon da fy hanesion i. nol a fi i chwythu fy nhrwyn a teimlo'n flin am 'yn hun dwi'n meddwl.

gobitho welai'r mwyafrif no chi dros yr wyl - meddwl pigo i'r gogs rthwng nawr a dwiedd ionawr - rili ishe cwrdd a Cadi!

xxxxx

1 Comments:

Blogger ffrindie/friends - brans & eurig ...

Haia Martha

Wyt ti'n teimlo'n well eto!?!?

Hygs o Aber,
Marix

13:41  

Post a Comment

<< Home