12.2.07

Girly night bach tawel mewn...

Pnawn dydd Sadwrn, er gwaetha'r eira mawr diwedd yr wthnos, ddath Gwawr lan i Aber ac yna es i 'mlan gyda hi i Gaernarfon am NOSON MEWN! Siriys - odd Gwawr ishe cwrdd a Cadi ac mi wedes i fydden i'n mynd gyda hi yn gwmni. Don ni ddim rili yn ffansio noson fawr mas, er gwaetha atyniadau amlwg y Black Boy ddo, felly cal noson grown-up a sidet oedd y cynllun!

Dechreuodd pethe'n dda: nath Llio, Leri a Cadi ddod draw i dy Rhiannon yn fuan ar ol i ni gyrraedd - mae Cadi MOR ciwt a Leri yn edrych yn amazing! Ar ol sbel o chware gyda'r babi a lot o wws-ac-aas nath Rhians agor potel o Cava...ac yna un arall. Yum yum.

Nethon ni iste rownd yn sgwrsio a dala lan a gossipo a Rhians yn coginio swper LYSH i ni:
tuna steaks gyda basil dressing a salad tomato a basil gyda croutons lyfi a thatw-pob. Yr uchafbwynt i fi oedd y sticky-toffee-pudding gyda saws taffi melys rili rili blasus.

Roedd y gwin a'r Cava yn amlwg yn llifo trw'r pryd ac erbyn tua 11 ron ni gyd yn dechre'i dal hi tamed bach. Ath Martha i'r gwely yn itha hwyr (very, very wise move) ond nath Llio, Rhians a fi aros lan tan yr orie man yn siarad ac yn mwydro ac yn dawnsio i Grace Kelly Mika (yw hwn da chi eto Brans? Classic!) a I Don't Feel Like Dancing fel ffylied gwallgo. Diolch byth bod neb yn gallu gweld mewn i'r ty. Druan a Gwaz ddo achos odd hi'n trial cysgu reit oddi tano ni.

Ta beth, odd hi'n lylfi gweld pawb, yn enwedig Cadi Coese, ac yn lysh dala lan yn iawn.

Nethon ni drafod dod mas i Canada ond wi'n clywed eich bod chi falle adre nawr erbyn Gorffennaf - os felly beth am New York 'in the fall'?!!?! Ma'r cynllun yn cael ei hatcho and we'll keep u posted.

Edrych mlan i gal ti gyda ni ar gyfer ein crazy cava-thon nesa. Misso ti Brans!

Marix