17.1.07

Reach for the... Gutter

Ma Celebrity Big Brother mlaen ym Mhrydain ar hyn o bryd... Wi fel arfer yn osgoi'r holl beth (hm onest) ond ar ol y noson gynta a gweld Face o'r A-Team yn cyrraedd yn ei fan ddu, on i'n hooked.
Wel y noson o'r blaen ron i'n teimlo'r gwylio lot yn fwy anghyfforddus na'r arfer... Yn syml, ma Jade Goody, WAG a'r un on i wastad yn eitha lico o S-Club 7 wedi bod yn bitcho shwd gyment nes aparentli croesi'r ffin mewn i hiliaeth am seren o Bollywood sydd yn y ty gyda nhw ac sy'n digwydd bod itha lot yn fwy pert, talentog, enwog, cyfoethog, classy a, wel, tamed bach yn fwy snobi, posh a condecending ish na nhw.

Ma'r 'hiliaeth' honedig dros y newyddion i gyd erbyn hyn: ma effegies o gynhyrchwyr BB yn cael eu llosgi yn India ac Ofcom wedi cael dros 20,000 o gwynion. Y mwya ers Jerry Springer the Opera.

Ma'r holl beth wedi rili ypseto fi am rhyw reswm - nid bo fi'n ffan mawr o Shilpa (er bo fi yn edmygu'r ffaith bo hi mor articulate ac yn cadw'i urddas trw'r holl beth) jyst bo fi yn rili rili casau y Chavtasticness mae Jade yn ei gynrychioli. Ma hi a'r merched erill yn atgoffa fi o blant ysgol rili bitchy ac insecure. A, wel, twp. Nath y WAG hyd yn oed ofyn i Jade os oedd Jack (ei beau) yn gallu DARLLEN. SHOPPING LIST.

Ond na fe, diolch byth ma'r backlash wedi bod mor ddramatig ac ma lot o arbenigwyr wedi bod yn darogan mai hwn fydd diwedd y diwylliant celeb 'post heat' (oh yes!!!) a diwedd gyrfa Jade et al hefyd. Hwre. Nid hwre am ddiwedd Heat ddo. Let it live on to tell the tale.

Eniweis.

Vote Jade OUT.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home