20.1.07

Priodas, Priodas

Mae Angharad Closs a Rhodri yn priodi hefyd - haf yma gobeithio! Hwre hwre!

Marix
Priodas...

Newyddion da arall: Heledd Tom a Dafydd wedi dyweddio dros y Nadolig!

Llongyfarchiade masif iddyn nhw.

Mari

17.1.07

Reach for the... Gutter

Ma Celebrity Big Brother mlaen ym Mhrydain ar hyn o bryd... Wi fel arfer yn osgoi'r holl beth (hm onest) ond ar ol y noson gynta a gweld Face o'r A-Team yn cyrraedd yn ei fan ddu, on i'n hooked.
Wel y noson o'r blaen ron i'n teimlo'r gwylio lot yn fwy anghyfforddus na'r arfer... Yn syml, ma Jade Goody, WAG a'r un on i wastad yn eitha lico o S-Club 7 wedi bod yn bitcho shwd gyment nes aparentli croesi'r ffin mewn i hiliaeth am seren o Bollywood sydd yn y ty gyda nhw ac sy'n digwydd bod itha lot yn fwy pert, talentog, enwog, cyfoethog, classy a, wel, tamed bach yn fwy snobi, posh a condecending ish na nhw.

Ma'r 'hiliaeth' honedig dros y newyddion i gyd erbyn hyn: ma effegies o gynhyrchwyr BB yn cael eu llosgi yn India ac Ofcom wedi cael dros 20,000 o gwynion. Y mwya ers Jerry Springer the Opera.

Ma'r holl beth wedi rili ypseto fi am rhyw reswm - nid bo fi'n ffan mawr o Shilpa (er bo fi yn edmygu'r ffaith bo hi mor articulate ac yn cadw'i urddas trw'r holl beth) jyst bo fi yn rili rili casau y Chavtasticness mae Jade yn ei gynrychioli. Ma hi a'r merched erill yn atgoffa fi o blant ysgol rili bitchy ac insecure. A, wel, twp. Nath y WAG hyd yn oed ofyn i Jade os oedd Jack (ei beau) yn gallu DARLLEN. SHOPPING LIST.

Ond na fe, diolch byth ma'r backlash wedi bod mor ddramatig ac ma lot o arbenigwyr wedi bod yn darogan mai hwn fydd diwedd y diwylliant celeb 'post heat' (oh yes!!!) a diwedd gyrfa Jade et al hefyd. Hwre. Nid hwre am ddiwedd Heat ddo. Let it live on to tell the tale.

Eniweis.

Vote Jade OUT.

7.1.07

PENBLWYDD HAPUS LLIO!

Penblwydd Hapus i ti,
Penblwydd Hapus i ti,
Penblwydd Hapus i LLIO,
Penblwydd Hapus i ti!!!!

Hip-ip, HWRE! Hip-ip, HWRE!

Gobeithio i ti gael noson ffantastig ar nos Galan - a penblwydd lyfli y diwrnod wedyn.

A doedd hi ddim yn ddydd Mercher. Bonus!

Marix
Penwythnos Cynta 2007 - ble thy **** aeth y Nadolig?

Mae'n rhyfedd meddwl fod y paragraff dwetha ar y blog yn dyddio o cyn y Nadolig... Ma lot ond dim byd lot (na mas o'r cyffredin rili) wedi digwydd yn y cyfamser.
Gethon ni Nadolig lyfli - ond tebyg i bob Nadolig arall (sef y rheswm odd e mor neis siwr o fod) - yng Nghasllwchwr. Lot gormod o sdwffin a gwin a diogi. Neis iawn.
Lan a ni i Gilfach Gwyddil, ty Dafydd Gwyn, tad Ifan, wedyn ar gyfer y flwyddyn newydd. Rhwng y snorto wisgi; yr yfed 'siampen' Mileniwm rhad Gwern; cig eidion nath ennill roset yn y Royal Welsh; coelcerth yn y glaw a'r whare Poker am 4 y bore roedd hi'n dipyn o noson. Odd y bola'n troi erbyn toriad gwawr, so arhoses i'n y gwely tan tua canol dydd. Dechrau gret ac adeiladol i'r flwyddyn newydd. Way to go.
Wi wedi penderfynu peidio neud addunedau'n arbennig ar gyfer 2007 ond trio meddwl am 10 peth i'w wneud cyn bo fi'n 30 yn lle (a 5 peth i Ifan cyn iddo fe droi'n 35 - ho ho!). Hyd yn hyn ma nhw'n cynnwys:

  1. Dechre busnes
  2. Mynd ar drip i Chile
  3. Sgwennu nofel (ahem)

Yna, wi'n styc. O wel.

Un peth sydd ar y gweill ar gyfer 2007 ddo, yw taith fach mas i weld Brans yn Canada. Wi wrthi'n ymchwilio prisie nawr and I'll keep you posted.
Brans a Mans - keep up the good work lawr yn Sydney! Neis gweld fod y gwin a'r amsere da yn llifo. Brans, i bwy ti'n gweithio? Ma'r olygfa o'r swyddfa dipyn gwell na'r olygfa o gaeau a carafans mawr Salop a concrit blocs s'da fi yn Mach! O ddifri, on i'n methu credu'r mor bert odd y llun a dynnwyd o'r fflat dros yr Harbwr. Styning. Mwynhewch pob eiliad.
Marix